Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (39)v2 |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty (45 munud) |
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)
|
3. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM4892 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd darparu cyfres ragorol o raglenni wedi'u hanelu’n benodol at y blynyddoedd cynnar er mwyn galluogi plant i ffynnu’n addysgol ac yn gymdeithasol;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi sylw i ganfyddiadau Gwerthusiad o Dechrau’n Deg 2011 sy’n dweud mai cyrraedd teuluoedd dan anfantais economaidd-gymdeithasol sydd leiaf llwyddiannus; ac
b) adolygu’r amrywiadau presennol ar draws y Cyfnod Sylfaen, yn benodol o ran cysondeb ac ansawdd yr hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr.
Gellir gweld Gwerthusiad o Dechrau’n Deg 2011 drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/about/aboutresearch/social/latestresearch/EvalFlyStart7-20/?lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mewnosod fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1:
Yn croesawu’r £20 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Derfynol ym mis Rhagfyr, a fydd yn helpu plant i ffynnu’n addysgol.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mewnosod fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1:
Yn nodi mai dim ond 21 y cant o ddisgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim sy’n cael pump TGAU da gradd A* i C.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mewnosod fel is-bwynt newydd ar ôl pwynt 2a:
sefydlu’r arfer gorau yn y rhaglen Dechrau’n Deg bresennol er mwyn llywio’r gwaith o ymestyn y rhaglen.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mewnosod fel pwynt 2b newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
sicrhau, wrth gyflwyno Dechrau'n Deg, fod yr arfer gorau a ganfuwyd yn ystod y cynllun peilot yn cael ei ledaenu’n effeithiol.
|
4. Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM4893 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros GIG Cymru a’r ddarpariaeth o dros £5 biliwn i Fyrddau Iechyd Lleol i gyflenwi gwasanaethau iechyd;
2. Yn gresynu wrth ddiffyg tryloywder ac atebolrwydd y Byrddau Iechyd Lleol wrth wneud penderfyniadau ac ym maes rheoli ariannol hyd yma.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1 ‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos mwy o gyfrifoldeb dros berfformiad Byrddau Iechyd Lleol’.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru ei harweiniad i Fyrddau Iechyd Lleol ar gynnwys y cyhoedd yn y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau’r GIG.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu y bydd cyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru yn arwain at dorri 6.6% ar gyllideb y GIG mewn termau real. |
5. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM4894 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r £56.9 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer band eang y genhedlaeth nesaf a fydd o fudd i holl ardaloedd Cymru;
2. Yn croesawu’r cyllid pellach ar gyfer band eang yng Nghaerdydd a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref y Canghellor; ac
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r arian hwn i roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r mannau gwan ar gyfer derbyn band eang.
Gellir gweld Datganiad yr Hydref drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.hm-treasury.gov.uk/as2011_index.htm
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwyntiau 1 a 2 a rhoi pwynt 1 newydd yn eu lle:
Yn nodi’r dyraniadau diweddar o gyllid cyhoeddus ar gyfer darparu band eang.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1, dileu "band eang y genhedlaeth nesaf" a rhoi yn ei le "prosiect band eang y genhedlaeth nesaf Llywodraeth Cymru"
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2, ar ôl "Canghellor" mewnosod "er mwyn creu hyd at ddeg o ‘ddinasoedd uwch-gysylltiedig’ ar draws y DU"
[os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3.
Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu ‘i ddefnyddio’r arian hwn’.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad am ei thrafodaethau gyda BT Openworld ar gyfer cyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf ledled Cymru.
|
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am |
6. Dadl Fer (30 munud) NDM4891 Darren Millar (Gorllewin Clwyd):
Mae gan bobl hŷn hawliau hefyd
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mawrth, 24 Ionawr 2012